A logo for a sports club  Description automatically generated

 

COFNODION: Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR YSMYGU AC IECHYD

RHITHWIR - TEAMS:  0930 – 1030 DYDD MAWRTH, 27 CHWEFROR 2024

 

PWNC: AI CYFLWYNO COFRESTR O FANWERTHWYR YW’R CAM NESAF O RAN RHEOLI TYBACO YNG NGHYMRU?

 

CADEIRYDD: John Griffiths AS

 

YN BRESENNOL

Amy Lewis

Stephanie Barnhouse

Ben Coates

Andrew Bettridge

Cath Einon

Catherine Perry

Chris Emmerson

Deb Parsons

Ryland Doyle

Greg Pyecroft

Claire Howells

Altaf Hussain AS

Ian Millington

Mark Isherwood AS

Janet Joyce

Jodie Foran

Jonathan Goodfellow

Clive Jones

Kerry Pearson

Lewis Williams

Lloyd Bowen

Louise Elliott

Marie Brousseau-Navarro

Matthew Cass

Natalie Hazard

Paola Andrea Browne

Rebecca Lewis

Simon Scheeres

Simon Wilkinson

Daniel Starkey (ar ran Darren Millar AS)

Stephanie Hill

Suzanne Cass

Suzanne Williams

Tirion Meredith

Fatma Nur Aksoy

Jonathan Goodfellow

Ruben Kelman

Alison Dally

Rhianon Passmore AS

 

Agenda

Amser

Eitem

0930

1. Croeso gan y Cadeirydd

0935

2. Cyflwyno siaradwyr gan ASH Cymru

0940

3. Cyflwyniad fideo gan yr Athro Jamie Pearce, Prifysgol Caeredin “Sut gall cofrestr o fanwerthwyr helpu â’r gwaith o herio anghydraddoldebau iechyd?”

0950

4. Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chyfarwyddwr Iechyd

1000

5. Claire Howells, Safonau Masnach Torfaen, rheolwr tîm trwyddedu

1010

6. Fatma Nur Aksoy a Ruben Kelman, aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru

1015

7. Cwestiynau a thrafodaeth

1025

8. Sylwadau i gloi gan y Cadeirydd

1030

9. Cloi’r cyfarfod.

 

1.    CROESO:

John Griffiths AS:Rhoddodd y Cadeirydd gyd-destun y drafodaeth, gan ddweud bod disgwyl i’r broses ddeddfwriaethol ddechrau’n fuan ar gyfer y Bil Cenhedlaeth Ddi-fwg a Mynd i’r Afael â Fepio ymhlith Pobl Ifanc a bod y dtrafodaeth ynghylch creu cofrestr o fanwerthwyr yn un ddiddorol. Dywedodd y Cadeirydd fod heriau aruthrol ynghlwm wrth ysmygu ac y dylem wneud popeth yn ein gallu i ddatrys y broblem.

Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: Roedd SC am atgoffa’r cyfarfod fod tybaco yn wahanol i bob cynnyrch defnyddiwr arall ac, o'i werthu a'i ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, mae’n lladd hanner ei ddefnyddwyr hirdymor. Pe bai sigaréts yn dod ar y farchnad heddiw, meddai, byddent yn anghyfreithlon. Dywedodd fod yn rhaid cofio hyn pan fyddwn yn sôn am werthu tybaco ar unrhyw ffurf.

 

2.    CYFLWYNIAD GAN ASH CYMRU:

Louise Elliott, pennaeth polisi, ASH Cymru:

Dechreuodd drwy ailddatgan ymrwymiad ASH Cymru i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030 – a gallai’r drafodaeth heddiw ar weithredu’r ddeddfwriaeth bresennol, a fyddai’n ei gwneud yn angenrheidiol i fanwerthwyr tybaco ymuno â chofrestr, fod yn gam mawr ymlaen tuag at gyrraedd y nod hwnnw.

Mae’r drefn o roi trwydded i werthwyr alcohol eisoes wedi’i hen sefydlu yng Nghymru.  Ond, ar hyn o bryd, nid oes trefn ffurfiol debyg ar gyfer gwerthu sigaréts - sy'n unigryw o niweidiol ac yn gynnyrch y mae llawer yn mynd yn gaeth iddo.  

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ysmygu yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael eu sigarét gyntaf pan oeddent yn eu harddegau, felly gallai system sy’n helpu i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu, ac sy’n lleihau gwerthiant i rai dan oed, arwain at nifer o ganlyniadau pwysig.

Gallai leihau niwed i iechyd ac achub bywydau.

Gallai gynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i fanwerthwyr cyfrifol, sydd ond yn gwerthu cynhyrchion y telir treth arnynt i oedolion.

Ac wrth i'r cyfarfod edrych yn agosach ar bolisïau  ataliol, a allai cofrestr dybaco hefyd chwarae rhan gymdeithasol ehangach o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau?

Gofynnwyd i'r cyfarfod drafod yr anghydraddoldebau iechyd hyn yn benodol.

Roedd LE am dawelu meddwl y cyfarfod ynghylch un pwynt pwysig – mae 85% o bobl Cymru eisoes yn cytuno bod angen cael cofrestr o fanwerthwyr neu system drwyddedu ar gyfer cynhyrchion tybaco. Yn oysytal â hyn, mae’r gefnogaeth i gymryd camau i reoli tybaco yn ehangach yn tyfu. Yn 2015, pan gynhaliodd ASH Cymru ei arolwg YouGov blynyddol – roedd 39% (bron 4 o bob 10) o’r farn nad oedd y llywodraeth yn gwneud digon. Yn 2023, gofynnodd yr elusen yr un cwestiwn yn union eto - mae cyfran y bobl yng Nghymru sy'n dweud nad yw'r llywodraeth yn gwneud digon yn awr wedi codi i 50%.

Cafwyd braslun o’r cyfle enfawr sydd gan y rhai sy’n datblygu polisi i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed Cymru.

Cyflwynwyd y siaradwyr: cyflwyniad fideo gan yr Athro Jamie Pearce o Brifysgol Caeredin, ni allai ddod i’r cyfarfod, ond roedd am rannu ei werthusiad o’r unig gofrestr o fanwerthwyr tybaco yn y DU, sef y gofrestr yn yr Alban.

Marie Brousseau-Navarro yw Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cyfarwyddwr Iechyd. Cymerodd Marie ran i helpu i arwain trafodaethau i wneud yn siŵr ein bod yn ymdrechu i amddiffyn Cymru’r dyfodol rhag niweidiau heddiw.

Mae Claire Howells yn rheolwr Safonau Masnach yn Nhorfaen. Mae gan Claire brofiad helaeth ym maes trwyddedu yng Nghymru ac mae'n chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o orfodi deddfwriaeth rheoli tybaco.

Mae Fatma Nur Aksoy a Ruben Kelman yn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae gan y ddau brofiad personol o effaith ysmygu ar eu teuluoedd a'u cymunedau. (Cafodd Ruben broblemau cysylltu, felly nid oedd yn gallu aros yn y cyfarfod)

Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol i ystyried ai cofrestr o fanwerthwyr neu system drwyddedu fyddai’r dull gorau i’w fabwysiadu yng Nghymru, a sut y gallai cofrestr neu system drwyddedu hybu cyfiawnder cymdeithasol.

 

 

3.    Yr Athro Jamie Pearce, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd, Cymdeithas ac Iechyd, Ysgol GeoWyddoniaeth, cyflwyniad fideo Prifysgol Caeredin: “Sut y gall cofrestr o fanwerthwyr hybu’r gwaith o herio anghydraddoldebau iechyd?”

 

a.    Sut mae’r gofrestr tybaco yn yr Alban yn cael ei defnyddio ar gyfer gwaith ymchwil?

Y cefndir: Cyflwynwyd cofrestr tybaco yn yr Alban yn 2010. Gall manwerthwyr ymuno am ddim. Roedd yn ofynnol i werthwyr fêps / nicotin ymuno yn 2017. Mae nifer y manwerthwyr sy’n cydymffurfio’n uchel. Mae’n rhad ac mae’r baich gweinyddol yn isel.

b.    Materion yn ymwneud â gweithredu'r gofrestr:

O safbwynt ymchwil – dywedodd JP fod y gofrestr yn bwysig iawn. Roedd sleidiau’n dangos sut mae gwaith hyrwyddo a phrisiau wedi’u defnyddio i reoli tybaco, ond nid yw ymdrechion i gyfyngu ar eu gwerthiant wedi cael cymaint o sylw. Dywedodd JP fod y gofrestr wedi helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwnnw.

Roedd tabl yn dangos sut mae tybaco ar gael i wahanol raddau ar draws yr Alban. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn yr Alban roedd y nifer fwyaf o fanwerthwyr tybaco.

Os yw sigarets yn hawdd i’w cael yn lleol, mae hynny’n cael effaith ar iechyd, meddai JP. Yn yr ardaloedd hynny lle mae gwerthu’r cynhyrchion hyn yn gyffredin iawn, mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod wedi ysmygu, mae oedolion yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr ar hyn o bryd, ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi, ac mae menywod beichiog yn fwy tebygol o ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd cyntaf ac yn llai tebygol o roi'r gorau iddi.

Dangosodd JP fod cysylltid clir rhwng i ba raddau roedd tybaco ar gael a chanlyniadau iechyd.

c.    Y camau nesaf

Dywedodd JP fod angen ymdeimlad gwell o gydymffurfiaeth ar yr Alban, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn manwerthwyr fêps. Hefyd mae angen casglu data gwell ar drosiant ac elw manwerthwyr tybaco.

Tynnodd JP sylw at y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth gyflwyno cynllun cofrestru amodol: mesurau gorfodi llymach ar y rhai sy'n torri’r amodau; amddiffyn y genhedlaeth nesaf; system o gyflwyno prisiau newydd heb gyflwyno deddfwriaeth newydd; ymateb mwy hyblyg i gynhyrchion nicotin newydd; cefnogaeth gyhoeddus gref.

 

 

4.    Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cyfarwyddwr Iechyd

MB-N: Diolchodd i bawb yn y cyfarfod am y gwaith sy'n mynd rhagddo i atal niwed a marwolaethau cynnar a chadw ein plant yn ddiogel: roedd yn waith hynod bwysig. Roedd hefyd yn croesawu’n fawr yr ymrwymiad i greu Cymru Ddi-fwg erbyn 2030. Dywedodd MB-N fod unrhyw beth sy’n lleihau’r defnydd yn beth da, mae atal afiechyd a marwolaethau cynamserol yn rhan allweddol o sicrhau Cymru iach a mwy cyfartal – mae cymryd agwedd ataliol yn allweddol i’n cenhadaeth, gan gadw ein poblogaeth yn iachach am gyfnod hwy a lleihau’r effaith ar y GIG, sydd eisoes dan straen sylweddol. Cadarnhaodd MB-N nad oes gan swyddfa’r Comisiynydd farn na safbwynt ffurfiol ynghylch a oes angen cofrestr tybaco neu nicotin, system drwyddedu neu fodel arall arnom; ond fel cyfreithiwr sydd wedi gweithio ers degawdau yn helpu i ddrafftio a phasio biliau ar gyfer Cymru, dywedodd ei bod braidd yn drist pan nad ydynt yn cael eu cychwyn. Dywedodd MB-N ei bod yn cymryd dwy flynedd i ddrafftio a phasio cyfraith – felly efallai y gallai’r gofrestr fod yn ddrafft cyntaf o fodel arall? Yn gyffredinol, dywedodd ei bod yn gefnogol iawn ac roedd am weld camau’n cael eu cymryd i'n helpu i ddatblygu model iechyd ataliol - ac i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl. Bydd yn arbed miliynau o bunnoedd ac yn osgoi miloedd o farwolaethau cynamserol. Mae angen inni fod yn hynafiaid da ac mae angen inni fod yn feiddgar. Nid yw gwneud dim yn opsiwn - byddwn yn cael ein barnu yn y dyfodol am yr hyn a wnawn heddiw.

 

5.    Claire Howells, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, rheolwr tîm trwyddedu a safonau masnach.

Cyflwyniad: Esboniodd ei bod yma i drafod yr hyn y mae timau safonau masnach yn ei wynebu wrth ymdrin â thybaco a chynhyrchion nicotin. Ac i drafod sut y byddai cofrestr o fanwerthwyr neu system drwyddedu yn ddefnyddiol i dimau safonau masnach awdurdodau lleol.

Prif bwyntiau:Byddai cofrestr yn ei gwneud yn ofynnol i bob manwerthwr gofrestru neu gael ei drwyddedu er mwyn gwerthu tybaco neu nicotin. Byddai’n drosedd gwerthu’r cynhyrchion hyn oni bai’ch bod wedi’ch cofrestru neu’ch trwyddedu.

Materion i’w hystyried: Lleoliad y cynhyrchion - gellir eu gwerthu yn unrhyw le ac ym mhobman - nid ydym yn gwybod ble maent yn cael eu gwerthu. Pwy sydd, ac a ddylai, fod yn atebol am eu gwerthu? Nid y person sy'n eu gwerthu, ond y rhai sy'n gyfrifol am y busnes. Mae aildroseddu yn broblem ac mae erlyn yn broses hir a chostus.

Manteision: Cynorthwyo manwerthwyr – dywedodd Ch y gallant roi cyngor ac arweiniad perthnasol. Mae'n galluogi timau i sicrhau bod manwerthwyr yn ymwybodol o ddeddfwriaeth a materion sy'n dod i'r amlwg. Hefyd, mae’n diogelu defnyddwyr. Mae’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr fod cynhyrchion yn cael eu gwerthu ar safle sy'n bodloni gofynion cyfreithiol. Byddai’n gwneud manwerthwyr yn fwy atebol – yn enwedig mewn perthynas â gwerthu dan oed. Byddai'n gwneud iddynt feddwl yn ofalus am bwy sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cael eu gwerthu’n unol â'r gofynion. Hefyd, gallai'r risg o gael eu tynnu oddi ar y gofrestr neu o ddirymu eu trwydded fod yn ffactor ataliol.

Heriau: Creu’r gofrestr:  Pwy fyddai'n ei chynnal? A fyddai'n cael ei chynnal yn ganolog? A fyddai Awdurdodau Lleol yn darparu'r gwasanaeth hwnnw? Hefyd, pwy fyddai’n cynnal a chadw’r system neu’r cynllun? Mae cost yn ffactor arall - o safbwynt y gwaith gweinyddol a'r manwerthwr. Ni ddylid codi treth ormodol ar fanwerthwyr. Mae gorfodi yn her i dimau Safonau Masnach, ond bydd cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr neu gynllun trwyddedu yn cynorthwyo swyddogion i ddelio â’r problemau sy’n eu hwynebu.

Sut fath o drefniant fyddai hwn? O dan Ddeddf Trwyddedu 2003, caiff y safle a’r person sy'n cymryd cyfrifoldeb eu trwyddedui werthu alcohol. Gall yr awdurdod lleol ymdrin ag achosion o dorri amodau; gan gynnwys adolygu caniatadau ac mae’r opsiynau’n cynnwys atal a dirymu. Gellid ystyried model tebyg ar gyfer cynhyrchion tybaco a nicotin.

 

Cadeirydd: Diolchodd i Claire. Dywedodd JG ei bod yn ddefnyddiol iawn cael ein hatgoffa o rai o agweddau ymarferol ar y gofrestr a’r gwaith gorfodi ar lawr gwlad. Mae’n ddefnyddiol cael model y gellir ei asesu i’w ddefnyddio yng nghyd-destun tybaco a nicotin, a’r system trwyddedu alcohol yw’r enghraifft fwyaf defnyddiol.

JS: Pleser o’r mwyaf yw gofyn am safbwynt y Senedd Ieuenctid ar y drafodaeth: croeso i Fatma Nur Aksoy. (Nodwyd, oherwydd problemau cysylltu, bu'n rhaid i Ruben Kelman adael y cyfarfod)

 

6.    Fatma Nur Aksoy, aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

 

FA - dywedodd: Mae hwn yn gyfarfod pwysig iawn. Mae ysmygu a fepio’n bwnc mawr a phwysig ar hyn o bryd, mae'n rhemp nawr.

Mae gen i ddau riant sy’n ysmygu a byddent yn hoffi rhoi’r gorau iddi, ond ni allant wneud hynny oherwydd eu bod yn gaeth i ysmygu.

Rwy'n dod o'r gymuned Cwrdaidd ac maen nhw'n gwerthu sigaréts a fêps ac rwy’n sylwi mai eu siopau nhw sy’n gwerthu i bobl ifanc ac rwy'n teimlo cywilydd ac embaras oherwydd bod fy nghymuned yn gwneud rhywbeth anghyfreithlon.

Nid yw ysgolion a cholegau’n cael digon o gymorth. Er i Ysgol St Julian ac ar hyn o bryd rwyf yng Ngholeg Gwent - nid wyf yn cofio dysgu am ysmygu erioed.

Mae angen mwy o addysg yn y cyswllt hwn. Mae angen mwy o addysg ar fwy o bobl. Mae plant yn dod â sigaréts neu fêps gyda nhw i’r ysgol ac yn ysmygu’r tu allan i’r ysgol ac mae’n warthus gweld hyn.

Pan fyddaf yn gweld pobl ifanc yn ysmygu ac yn fepio, rwy'n meddwl eu bod yn mynd i farw'n gynnar. Fyddai fy rhieni byth yn gadael i mi ysmygu neu fepio - byddwn mewn cryn dipyn o helynt.  Er fy mod yn 18, mae gen i rieni na fyddai'n caniatáu hynny.

Maen nhw'n gofyn iddyn nhw eu hunain, pam wnaethon nhw ddechrau ysmygu? Dechreuodd dad pan oedd yn 14 oed,. Mae ganddo ddiabetes, colesterol uchel a phwysedd gwaed uchel erbyn hyn - nid yw ysmygwyr yn sylweddoli beth fydd yn digwydd iddynt.

Mae angen i ysgolion / colegau / clybiau ieuenctid eu haddysgu.

Mae FA yn credu y dylai gwerthwyr, gan gynnwys yn y gymuned Cwrdaidd, orfod cael trwydded cyn gwerthu - os nad oes trwyddedau, bydd rhai arferion yn parhau.

Ym mhrofiad FA, mae pobl yng Nghasnewydd yn gwerthu’r cynhyrchion yn anghyfreithlon i bobl ifanc a dywedodd bod hyn yn warthus a’i bod yn teimlo cywilydd. “Rydych chi'n ceisio lladd plentyn.”

Roedd FA am weld y Llywodraeth yn rhoi trwyddedau dim ond i'r manwerthwyr y maent yn ymddiried ynddynt.

“Rwy’n gweld siopau ar gau am 3 mis, dyw e’n ddim byd – fe fyddan nhw’n dechrau gwerthu eto. Arian yw popeth - byddan nhw'n gwneud yr un fath eto. Dydyn nhw ddim yn poeni am blant.”

 

 

Cadeirydd: Diolchodd i Fatma. Roedd yn dda clywed yr hyn a ddywedodd am drwyddedu a phwysigrwydd hynny. Dywedodd JG wrth y cyfarfod fod ein cymunedau’n cynnwys nifer o grwpiau ethnig gwahanol ac mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn eu deall i gyd.

 

7.    Trafodaeth a chwestiynau

 

Cwestiwn: Chris Emmerson, un o’r ymgynghorwyr arweiniol ar gyfer rheoli tybaco yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diolchodd i ASH Cymru am y papur briffio a baratowyd ar gyfer y cyfarfod.

Dywedodd: Rydym wedi bod yn edrych ar dystiolaeth ym maes trwyddedu, a pha gyfleoedd a ddaw yn sgil hynny. Gosod cyfyngiadau ar safleodd gwerthu, eu pellter o ysgolion - dyna’r mesurau a fyddai’n effeithio fwyaf ar y nifer sy’n ysmygu ac yn fepio ac ar anghydraddoldebau.

Sut y gellid cysylltu cofrestr o fanwerthwyr â chynllun trwyddedu ac a allai fod yn gam tuag at datblygu’r mathau hynny o systemau trwyddedu?

 

Cwestiwn: Altaf Hussain AS:

Dywedodd: Ysmygwyr Shisha, gallant ysmygu’r hyn sy’n cyfateb i  10 sigarét ac mae'n rhaid gwahardd hynny, a dylid cynnwys y safleoedd hyn ar y gofrestr.

 

Cadeirydd: Rydyn ni'n gweld mwy o gaffis shisha yn ein cymunedau a doeddwn i ddim wedi sylweddoli hynny.

 

Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru

Un peth a ddysgwyd wrth ddatblygu cofrestr Scottish Retail oedd y dylai fod yn hyblyg, i allu ymdrin â chynhyrchion newydd / gwahanol yn ôl yr angen – fel nad oes angen deddfwriaeth newydd drwy’r amser.

O ran cwestiwn Chris: Pan wnaethom ni ymateb gyntaf i ymgynghoriad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2017, fe wnaethom ni (ASH Cymru) alw am gynllun trwyddedu amodol gan nad oeddem yn credu mai creu cofrestr oedd y ffordd orau o ymdrin â’r broblem, er ei bod yn gam i’r cyfeiriad iawn o ran amddiffyn cymunedau. Ond yr hyn a gawsom oedd Deddf Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017, a oedd yn paratoi’r ffordd ar gyfer y camau cyntaf yn y broses o’i gweithredu. Sefydlu'r systemau, a dulliau cyfathrebu. Pe bai system drwyddedu ar waith cyn i’r farchnad fepio ffrwydro, byddai’n perthynas â manwerthwyr wedi gallu bod yn wahanol iawn. Gallem fod wedi dweud wrthynt beth sy'n gyfreithlon neu’n anghyfreithlon. Nid wyf yn meddwl y gallwn fforddio oedi ymhellach. Mae angen i ni fwrw ymlaen â'r darpariaethau hynny a rhoi rhyw fath o gynllun ar waith sy'n addas ar gyfer y dyfodol. A yw'n bosibl gweithredu'r hyn sydd gennym ac yna’i newid yn nes ymlaen?

 

Cadeirydd: Dywedodd JG y byddai'n ddefnyddiol gweithredu'r hyn sydd gennym eisoes gan fod yr amserlen ddeddfwriaethol yn gwbl lawn ac nid yw’n bosibl dilyn y trywydd hwnnw ar hyn o bryd. Bydai’n well gweld y system yn dwyn ffrwyth yn gynnar yn hytrach na gorfod wynebu’r rhwystredigaeth o aros. Rwy’n siŵr bod angen edrych ar hynny.

 

Clive Jones, Safonau Masnach Rhanbarthol: dywedodd fod posibilrwydd o fanteisio ar becyn cymorth olrhain CThEM . Mae’r byd wedi symud ymlaen ac mae CThEM wedi cyflwyno system olrhain. Felly pan fyddwch yn mynd i safle sy’n gwerthu’r cynhyrchion dan sylw, y peth cyntaf i’w wirio yw a ydynt yn cael eu cydnabod ar y system honno fel derbynnydd cyfreithlon neu werthwr cynnyrch cyfreithlon. Mae cosb ar gael hefyd i Safonau Masnach ei defnyddio, a gallwn ddarparu gwybodaeth er mwyn cosbi’r manwerthwr ymhellach.  Felly byddai angen i unrhyw system a ystyriwyd fod yn gydnaws â system CThEM a gallai CJ eu rhoi mewn cysylltiad â’r tîm sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw. Roedd yn cytuno â Claire y byddai cofrestr o fanwerthwyr yn ychwanegu gwerth mawr at y system. Masnachu teg sy’n bwysig.

Mae gennym ni 100 o fasnachwyr tybaco amheus yng Nghymru sy’n gwerthu cynnyrch anghyfreithlon – mae hynny wedi dyblu a threblu gyda’r un troseddwyr yn manteisio ar gyfleoedd i werthu fêps.

Mae'n her enfawr i'r gymuned orfodi.

Yng Nghaerdydd, mae ail achos llys mawr gyda rhestr o enwau yn y llys, sy'n defnyddio llawer o adnoddau’r cynghorau perthnasol.

Rydym yn defnyddio hysbysiadau cau ac yn ardal John yng Nghasnewydd, mae gwaith gwych yn mynd rhagddo gyda'r heddlu. Mae gweithio mewn partneriaeth yno yn llwyddiant.

Ond mewn gwirionedd bydd angen targedu adnoddau i wneud gwahaniaeth.

Gyda chofrestr, os ydych yn dweud bod 200/300 o fanwerthwyr amheus, yna oes, mae angen adnoddau i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ond mae angen i ni fod yn ofalus gyda'r masnachwyr cyfreithlon.

Dangosodd system yr Alban fod ganddynt 10,000 o fasnachwyr ac mae'r mwyafrif ohonynt yn gyfreithlon.

Dylem gefnogi a chydnabod busnes da a gwneud rhywbeth am y busnesau gwael. Mae’n argyfwng iechyd yma hefyd. Mae’r proffesiwn yn awyddus i fynd i’r afael â’r broblem ond mae llawer o droseddu ac mae hyn wedi  ehangu oherwydd y cynnydd aruthrol yn y farchnad fêps.

 

Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: Mae lle i fanwerthwyr cyfreithlon ond rydw i'n mynd i ddychwelyd at fy mhwynt cyntaf. O’r holl gynhyrchion defnyddwyr yn y byd - mae tybaco’n wahanol i bob un arall - mae'n unigryw o niweidiol ac yn unigryw o wahanol. Gallai cofrestr o fanwerthwyr roi gwybodaeth lefel poblogaeth i ni am werthiant y cynhyrchion hyn – dyna beth fyddai cofrestr o fanwerthu yn ei roi i ni. Mae system CThEM wedi helpu ac mae Clive yn iawn bod angen i’n gwaith gyd-fynd â’r systemau sydd ar waith eisoes i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.

 

Marie Brousseau-Navarro: Roedd am roi sylwadau ar ôl clywed y ddadl heddiw. Roedd y cyflwyniad ar system yr Alban yn dangos ei bod wedi arwain at ostyngiad o fil o leiaf yn nifer y manwerthwyr – mae hynny’n llwyddiant mawr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau ysmygu yn ifanc iawn, felly mae’r ffaith bod 1,000 yn llai o fanwerthwyr yn arbed llawer o fywydau. Mae'n hawdd ei wneud ac nid oes angen rhyw lawer o logisteg. Mae’n hawdd ac effeithiol ac mae ar y statud. Pam nad yw’r broses wedi dechrau? Beth sy'n ein rhwystro? Efallai nad yw'n berffaith. Ond rwy’n gweld hyn fel man cychwyn, mae rhywbeth ar gael i ni’n barod – does ond angen dweud “Ewch!” Dylem wneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth y gellir ei ehangu a'i fod yn hyblyg, fel y gall ymdopi â ffyrdd newydd o werthu nicotin - gan gynnwys hefyd mathau gwahanol o gemegau neu gyffuriau.

Cwestiwn dilys – pa ddewis arall sydd? Gwneud dim? Nid yw hynny’n gydnaws â Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhaid i ni amddiffyn y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw ddewis arall gennym. 

 

Cadeirydd: JG i SC: Ble mae Llywodraeth Cymru arni o ran datblygu Cofrestr Genedlaethol o Fanwerthwyr?

 

Suzanne Cass: Roedd gennym Strategaeth Rheoli Tybaco 2022, a chyn bo hir bydd fersiwn newydd o’r cynllun hwnnw a fydd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer 2024 – 2026. Dyma ein cyfle. Fel ASH Cymru, byddem yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i’r gofrestr o fanwerthwr. Byddem yn galw am eich cefnogaeth er mwyn ei gynnwys yn y cynllun gweithredu ar gyfer 24/26. Mae’n rhan o’n cydnabyddiaeth o Ddeddf ICC 2017. Gwyddom ei bod wedi cymryd amser i roi darpariaethau’r Ddeddf honno ar waith. Dim ond y llynedd y cyflwynwyd unedau iechyd meddwl di-fwg. Y gofrestr o fanwerthwyr yw un o’r ychydig rannau o’r Ddeddf honno y mae angen eu rhoi ar waith. Yr hyn yr ydym yn galw amdano yw i’r llywodraeth, a ninnau, y trydydd sector, a phawb sydd ynghlwm wrth y gwaith hwn ymgyrchu dros sefydlu cofrestr o fanwerthwyr fel y cam nesaf yn y cynllun gweithredu ar reoli tybaco yng Nghymru.

 

Cadeirydd: Mae'n ymddangos mai’r canlyniad rhesymegol yw i’r Grŵp Trawsbleidiol hwn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru at y diben hwnnw. Rwy’n fodlon cefnogi hynny’n gyffredinol a defnyddio cyfleoedd i ddarganfod a yw Llywodraeth Cymru, yn wir, am fabwysiadu'r dull hwnnw.

 

Louise Elliott, ASH Cymru: Byddwn yn dosbarthu cofnodion y cyfarfod ac yn gweithio ar argymhellion y cyfarfod heddiw. Mae croeso i bawb roi adborth. Mae angen i ni wneud pethau’n iawn. Rydym yn gobeithio cyflwyno’r cynlluniau hyn i’r Bwrdd Strategaeth Rheoli Tybaco. Diolch am eich presenoldeb, eich trafodaeth a’ch diddordeb. 

 

Cadeirydd: Diolchodd i bawb am ddod i’r cyfarfod. Mae’r rhain yn faterion pwysig o safbwynt iechyd cyhoeddus ac anghydraddoldeb iechyd ac mae angen i ni fynd i’r afael â nhw a defnyddio pa ddulliau bynnag sydd ar gael i leihau’r nifer sy’n ysmygu a fepio.  Rydym yn gytûn ynglŷn â hynny.

 

Mae'n braf dod at ein gilydd i glywed gan arbenigwyr a’r rhai sydd â phrofiad yn y maes ynghylch sut y gallwn symud ymlaen yn effeithiol.

Mae cofrestr tybaco a nicotin yn enghraifft dda ac ymarferol o’r ffordd y gallwn symud ymlaen. Gadewch i ni barhau â’r ymgyrch a gwella’r canlyniadau hynny i bobl yma yng Nghymru.